Cyber Security Essentials Webinar - 19 July 2022
19th July 2022 | 11:00 - 13:00


Mae seiberddiogelwch yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru y mae’r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol (CDPS) yn ei llwyr gefnogi.

Canfu arolwg gan lywodraeth y Deyrnas Unedig fod 39% o fusnesau ym Mhrydain wedi dioddef ymosodiad seiberddiogelwch diweddar, sy’n ategu canlyniadau arolygon blaenorol. O fis Medi 2020 i fis Awst 2021, roedd 40% o’r seiberymosodiadau a reolwyd gan y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol wedi’u hanelu at y sector cyhoeddus.

Mae gweminar rhannu gwybodaeth CDPS ym mis Gorffennaf yn ymwneud â hanfodion seiberddiogelwch. Bydd y sesiwn ryngweithiol yn cael ei chyflwyno gan gynrychiolwyr o’r Uned Troseddu Cyfundrefnol Ranbarthol a Chanolfan Seibergadernid Cymru.

Mae’r sesiwn wedi’i bwriadu ar gyfer pobl sy’n darparu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, yn ogystal ag unig fasnachwyr, microfusnesau, busnesau bach a chanolig eraill a sefydliadau’r trydydd sector.

Bydd yn ymdrin â’r canlynol:

- y cyd-destun seiberddiogelwch
- y prif fygythiadau seiberdroseddu a’u heffaith
- camau i leihau bregusrwydd eich sefydliad a’r cymorth sydd ar gael

---

Cybersecurity is a Welsh Government priority and one CDPS fully supports.

A UK government survey found that 39% of British businesses had suffered a recent cybersecurity attack, a result consistent with previous surveys. From September 2020 to August 21, 40% of cyber-attacks managed by the National Cyber Security Centre were aimed at the public sector.

CDPS’s July's knowledge-sharing webinar is on cybersecurity essentials. The interactive session will be delivered by representatives from the Regional Organised Crime Unit and the Cyber Resilience Centre for Wales.

The session is aimed at people delivering public services in Wales, as well as sole traders, micro-businesses, other small to medium enterprises and third sector organisations.

It will cover:

- the cybersecurity landscape
- main cybercrime threats and their impact
- steps to reduce your organisation’s vulnerability and support available
 
 
Register: HERE
 

Back to Events

Join Now

Ready to get involved? Sign up FREE to become a member of the Cyber Wales Ecosystem.